Senedd Cymru 
 Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
 Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)
 Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu
 Ionawr 2024
  

 

 

 

 

 

 


Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru), trefnodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion gyfres o gyfarfodydd grwpiau ffocws, i gasglu barn rhieni a gofalwyr ar y cynigion yn y Bil. Mae'r papur hwn yn cyfleu canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu hwnnw.

1.       Ymgysylltu

1.    Cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion ddau gyfarfod grŵp ffocws a saith cyfweliad rhwng 6 Rhagfyr a 20 Rhagfyr gyda nifer o rieni mewn gwahanol rannau o Gymru. Cafwyd sylwadau drwy e-bost hefyd gan un unigolyn.

2.    Roedd y dasg o gynnull pobl yn heriol yn sgil yr amserlen dynn ar gyfer ymgysylltu cyn gwyliau’r Nadolig, felly cynigiwyd cyfweliadau i’r rhai nad oeddent yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfod grŵp ffocws wedi’i amserlennu.

Cyfranogwyr

3.    Yn ystod yr ymgynghoriad ar ddatblygiad y Bil, rhoddwyd cyfle i weithwyr proffesiynol, unigolion a phlant a phobl ifanc ymateb i arolwg ar y cynigion. Bu Tîm Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd hefyd yn ymgysylltu â phobl ifanc yn ystod sesiynau a drefnwyd eisoes yn y Senedd.

4.    Fodd bynnag, dim ond nifer fach o ymatebwyr i’r ymgynghoriad a nododd eu bod yn rhieni/gofalwyr. Felly, canolbwyntiodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion ar gasglu barn rhieni a gofalwyr ar y Bil.

5.    Cafwyd y cyfranogwyr drwy sefydliadau sy'n cefnogi teuluoedd, ac yn cefnogi rhieni a gofalwyr yn arbennig. Hefyd gofynnwyd i nifer o’r rhai a gyfrannodd at yr ymchwiliad ar Fynediad Plant Anabl at addysg a gofal plant a hoffent gyfrannu at yr ymchwiliad hwn yn seiliedig ar ba mor berthnasol oedd y sylwadau a ddarparwyd ganddynt.

6.    Cymerodd cyfanswm o 20 o rieni ran. Mae gan 6 o’r cyfranogwyr blant ag anghenion dysgu ychwanegol neu anabledd ac mae 14 o’r cyfranogwyr yn aelodau o grŵp sy'n cefnogi cymunedau ethnig amrywiol dan anfantais.

7.    Daeth y cyfranogwyr o 6 ardal awdurdod lleol yng ngogledd a de Cymru.

8.    Hoffai’r Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion ddiolch i bawb a gyfrannodd at y rhaglen ymgysylltu.

Methodoleg

9.    Roedd gwaith y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion yn cynnwys sôn am y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr ymchwiliad:

·         Egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodir;

·         A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil ai peidio;

·         A oes unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil ac a yw'r Bil a’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd ag ef yn rhoi ystyriaeth iddynt (gan gynnwys cychwyn y Bil a Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig);

Gofynnwyd y cwestiynau a ganlyn i'r cyfranogwyr:

1.     Pa mor bwysig yw addysg awyr agored breswyl i ddatblygiad plant a phobl ifanc?

2.    Beth yw'r prif fanteision i blant a phobl ifanc o gael profiad o gwrs addysg awyr agored breswyl?

3.    Beth yw'r prif rwystrau i blant a phobl ifanc rhag mynd ar ymweliad addysg awyr agored breswyl?

4.    A ddylai plant a phobl ifanc gael y cyfle i gymryd rhan mewn cwrs addysg awyr agored breswyl ac, os felly, a ddylai fod yn rhad ac am ddim i bawb?

5.    Pe bai addysg awyr agored breswyl am ddim i bob plentyn, a oes unrhyw beth arall a fyddai’n eich atal rhag anfon eich plentyn ar yr ymweliad? Er enghraifft, cost dillad neu esgidiau.

6.    Canfu ymgynghoriadau ar y Bil drafft, ar ôl cyfyngiadau ariannol, mai'r rhwystrau mwyaf i blant a phobl ifanc o ran cael mynediad at addysg awyr agored breswyl yw pryder ac ansicrwydd plant a rhieni fel ei gilydd. A yw hyn yn rhywbeth y byddech yn cytuno ag ef? Os felly, a allech ymhelaethu ar eich pryderon, ac a oes unrhyw beth y gellid ei wneud i’w lleddfu?

7.    A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym?

 

10.  Roedd y fformat ymgysylltu yn debyg i raddau helaeth ar draws y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws, ond roeddent yn amrywio ychydig er mwyn ymateb i’r safbwyntiau, y profiadau a’r syniadau oedd yn cael eu rhannu gan gyfranogwyr.


 

2.       Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu: Pa mor bwysig yw addysg awyr agored breswyl i ddatblygiad plant a phobl ifanc?

Cadarnhaol

11.  Yn gyffredinol, cytunodd y cyfranogwyr y byddai'r cyfle i gael addysg awyr agored breswyl yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygiad plant a phobl ifanc.

“Rwy’n meddwl ei fod yn beth da iawn i blant, rwy’n meddwl ei fod yn gadarnhaol iawn.”

Anabledd

12.  Teimlai nifer o gyfranogwyr fod y cyfle hyd yn oed yn bwysicach i'r rhai ag anghenion ychwanegol neu anableddau, gan eu bod efallai'n gyfyngedig o ran y cyfleoedd sydd ar gael iddynt o gymharu â phlant a phobl ifanc eraill.

“Yn fwy felly, byddwn i’n dweud, ar gyfer plant ag anghenion arbennig a’r rheswm…cyfyngedig yw’r mynediad i’r byd ar eu cyfer eisoes.”

“Nid yw’r cyfleoedd yno mewn gwirionedd pan ystyriwch y graddau y mae plentyn ag anabledd ar ei golled o gymharu â phlentyn niwronodweddiadol.”

Gwahaniaethau diwylliannol

13.  Teimlai’r rhai a gymerodd ran mewn un grŵp y byddai mynd ar deithiau yn cynnig manteision ond roeddent hefyd yn gwerthfawrogi cyfleoedd teithio fel teulu a bod “amser teulu” yn hynod bwysig iddynt yn ddiwylliannol.

14.  O ganlyniad, roedd yn ymddangos bod y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn y grŵp hwn o blaid gallu teithio rhagor fel teulu yn hytrach nag anfon eu plant ar gyfnodau preswyl gyda’r ysgol, a chyfeiriodd un cyfranogwr at gynllun yn Amsterdam, ble mae’r llywodraeth yn rhoi €500 i’r teuluoedd i fynd ar daith gyda’i gilydd dros yr haf.

 


 

3.       Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu: y prif fanteision i blant a phobl ifanc o gael profiad o gwrs addysg awyr agored breswyl?

Annibyniaeth

15.  Soniodd yr holl gyfranogwyr am fanteision datblygu rhywfaint o annibyniaeth yn ystod cwrs addysg awyr agored breswyl a “dysgu sut i fod oddi cartref”.

16.  Teimlai cyfranogwyr y gallai fod yn gyfle da i helpu plant i ddysgu sgiliau bywyd ac y byddai “gwneud rhywbeth anarferol a chyffrous” yn rhoi annibyniaeth i'r plant.

“Yn yr ysgol rydych chi yng nghwmni pobl yr ydych yn gyfarwydd â nhw yn unig, sy'n wych ar gyfer teimlad o sicrwydd a pharhad. Ond dylai fy mhlentyn ddysgu sut i oroesi yn y byd hefyd.”

Sgiliau cymdeithasol

17.  Soniodd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr am fantais y cyfle i gymdeithasu y tu allan i’r ysgol ac y gall hyn fod o gymorth i ddatblygu perthnasoedd.

18.  Soniodd un cyfranogwr am y manteision i ddatblygiad cymdeithasol plant o'r cyfle i “brofi pethau heblaw pethau bob dydd yn yr ysgol a gartref”.

19.  Dywedodd nifer o gyfranogwyr mai’r math hwn o daith oedd un o’r unig gyfleoedd y mae plant ag anableddau yn eu cael i fod i ffwrdd oddi wrth eu rhieni a chymysgu â’u cyfoedion.

“Daeth fy mab adref ac roedd wedi gwneud ffrind ac fe gafodd wahoddiad i de, ac mae’n dal yn ffrindiau ag ef nawr, 6 mlynedd yn ddiweddarach. Ac mae’r person hwnnw wedi dod yn eiriolwr go iawn iddo.”

Natur

20.  Soniodd un cyfranogwr am bwysigrwydd helpu i ddatblygu diddordeb yn yr awyr agored a meithrin cenhedlaeth o blant sydd wedi ymrwymo i warchod byd natur.

21.  Soniodd am ddatblygu pobl ifanc sy'n “unfryd â natur” a rhoi'r cyfle i blant a phobl ifanc ddatblygu sgiliau goroesi.

Iechyd meddwl

22.  Soniodd un cyfranogwr am fanteision taith fel hon i iechyd meddwl plant. Teimlai y gallai cael y cyfle i fod y tu allan ac annog rhagor o weithgarwch fel hyn gefnogi iechyd meddwl cadarnhaol yn ein pobl ifanc.

 


 

4.       Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu: Beth yw’r prif rwystrau i blant a phobl ifanc rhag mynd ar ymweliad addysg awyr agored breswyl?

Costau

23.  Teimlai’r cyfranogwyr fod costau teithiau preswyl yn rhwystr i’r rhan fwyaf o deuluoedd ar hyn o bryd, yn enwedig i’r rhai â mwy nag un plentyn. Roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr felly yn cefnogi cynigion y Bil y byddai’r costau yn cael eu talu.

“Rwy’n meddwl bod y gost yn beth enfawr, enfawr i bobl.”

“Efeilliaid - wel maen nhw ddwywaith y gost.”

Hygyrchedd

24.  Teimlai'r cyfranogwyr fod angen sicrhau y byddai'r cyfleuster a ddewiswyd yn darparu ar gyfer unrhyw anableddau neu anghenion ychwanegol, a bod cynllunio, a chyfathrebu â rhieni yn allweddol. Teimlwyd nad yw llawer o safleoedd a ddefnyddir ar hyn o bryd yn gwbl hygyrch.

“Mae’n rhaid iddyn nhw asesu’r lle’n iawn ac mae’n rhaid iddyn nhw gydgysylltu â rhieni i’w wireddu.”

“Mae gwir angen i’r Ddeddf hon, yn rhywle, ddweud bod yn rhaid i ysgolion ddewis lleoedd sydd â digon o ddewis ac opsiynau. ac na ddylent wahanu plant ar sail gallu.”

25.  Ymhellach i'r pwynt hwnnw, nodwyd y dylai'r gweithgareddau eu hunain fod yn hygyrch hefyd, nid y cyfleuster ei hun yn unig.

“…i’r rhan fwyaf o blant, fe fydden nhw eisiau cymryd rhan mewn rhyw ffordd, a dwi’n meddwl ei bod hi’n ofnadwy iddyn nhw eistedd yno ac eisiau bod yn rhan o weithgaredd a methu â gwneud hynny.”

26.  Gwnaeth un cyfranogwr y pwynt bod ysgol ei phlentyn wedi gweithio gydag elusen anabledd sy'n sicrhau bod y gweithgareddau'n gynhwysol. Felly er nad oedd pob un o’r plant a fynychodd y daith yn anabl, roedd yr elusen yn gallu darparu ar gyfer pawb o’r cychwyn cyntaf, yn hytrach na gorfod meddwl am ba gymorth ychwanegol oedd ei angen ar rai plant yn y grŵp.

Cefnogaeth ddigonol

27.  Roedd cymarebau o ran athrawon neu gynorthwywyr addysgu i blant yn cael eu gweld fel rhwystr, gan y byddai angen rhagor ohonynt wrth ystyried plant anabl yn y grŵp. Teimlwyd y byddai angen ariannu'r cyfleoedd yn ddigonol er mwyn goresgyn y rhwystrau hyn.

28.  Awgrymodd cyfranogwr arall greu cronfa o gynorthwywyr yn lleol i’w defnyddio fel ffynhonnell cymorth, wedi’u lleoli yn yr awdurdod lleol efallai. Gan fod cydnabyddiaeth ei bod eisoes yn anodd ar yr ysgol gyda chynifer o blant i ofalu amdanynt.

“Fyddwn i ddim eisiau rhoi unrhyw bwysau ychwanegol ar yr ysgol.”

29.  Roedd rhai o rieni plant ag anableddau yn cael cais i fynd gyda'u plant i wneud yn siŵr bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Teimlai'r cyfranogwyr nad oedd hwn yn gyfle teg gan y dylid cynnig y cyfle i ddysgwyr fod i ffwrdd oddi wrth eu rhieni, fel eu cyfoedion, er mwyn cael cynnig cyfle cyfartal. Teimlent eto mai costau a staffio'r ymweliad oedd wrth wraidd y mater hwn.

“Ni ddylai rhieni plant ddatrys yr angen am gymorth i blant, gan y byddai mynd i ffwrdd ar gwrs preswyl ar sail cyfartal yn golygu y byddai’r holl blant eraill yn cael eu rhieni gyda hwy – mae’r amser rhydd hwnnw oddi wrth y rhieni yn rhan o’r profiad!”

30.  Ymhellach i hyn, soniodd un cyfranogwr am y rhwystrau a brofwyd o ran yr athrawon a'r ysgol a’u dealltwriaeth o gydraddoldeb. Teimlent fod yr ysgol wedi gwahaniaethu yn erbyn eu plentyn drwy beidio â rhoi'r cyfle iddo fynychu cwrs preswyl yn llawn.

“Un o’r rhwystrau mwyaf yw athrawon ac ysgolion, a dealltwriaeth am gydraddoldeb a thegwch. Cymerodd gryn amser i mi ddod dros hyn, ac nid ydynt yn sylweddoli hynny. Mae’r gwahaniaethu yn brifo’n fawr.”

Sensitifrwydd diwylliannol

31.  Teimlai llawer o gyfranogwyr y byddai angen i'r cyrsiau preswyl fod yn sensitif yn ddiwylliannol. Byddai hyn yn cynnwys cynllunio ar gyfer y bwyd cywir a dylunio gweithgareddau priodol.

“Anfonais fy mab ar daith yn ddiweddar a doedd ganddo ddim i’w fwyta oherwydd doedd dim cig halal ar gael, a dim ond llysiau a gynigwyd iddo, ac ni fyddai’n bwyta’r rhain.”

32.  Roedd rhai cyfranogwyr yn pryderu am reoli ymddygiad.

33.  Roeddent hefyd yn teimlo ei bod yn bwysig sicrhau bod trefn arferol yn cael ei chynnal.

34.  Mynegodd nifer o gyfranogwyr bryderon ynghylch “merched a bechgyn yn cymysgu”.

Hyd y cwrs preswyl

35.  Teimlai un aelod o'r grŵp y gallai hyd yr amser ddod yn rhwystr. Er enghraifft, pe bai taith yn para'r 4 noson a 5 diwrnod llawn, mae'n debygol na fyddai ei phlentyn yn para'r daith lawn ac yna byddent yn cael eu hystyried yn wahanol i'r plant eraill.  

5.       Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu: A ddylai plant a phobl ifanc gael y cyfle i gymryd rhan mewn cwrs addysg awyr agored breswyl ac a ddylai fod am ddim i bawb?

Cytundeb

36.  Roedd mwyafrif y cyfranogwyr yn cytuno y dylai pobl ifanc gael y cyfle i fynychu ac y dylai fod am ddim i bawb. Dywedodd grŵp bach o gyfranogwyr eu bod yn cefnogi’r syniad, pe bai’r rhwystrau a drafodwyd yn ystod eu sesiwn yn cael sylw. 

Yn erbyn

37.  Roedd un cyfranogwr yn gwrthwynebu’r cynnig yn llwyr.

Cyfleoedd i rai ag anableddau

38.  Teimlai rhai cyfranogwyr yn gryf y dylai plant gael y cyfle i wneud cwrs preswyl fel hwn, ac yn fwy byth o ran plant ag anableddau.

39.  Teimlai nifer o gyfranogwyr y gallai deddfwriaeth helpu i sicrhau bod eu plant yn cael cynnig yr un cyfleoedd â gweddill eu cyfoedion, cyn belled â bod canllawiau i gefnogi ysgolion a darparwyr ar sut i gyflwyno’r cyfleoedd hyn.

 “I mi mae’n ymwneud â fy mab anabl, nad oes ganddo fynediad at y pethau arferol y mae plant eraill yn eu gwneud, felly dylai’r cyfle hwn ddod yn flaenoriaeth i’r rhai nad oes ganddynt y clwb brecwast, y clwb ar ôl ysgol a gweithgareddau allgyrsiol tebyg oherwydd eu hanabledd….Rwy’n meddwl ei fod yn fwy o flaenoriaeth iddynt hwy nag ydyw i fy merch.”

“Maen nhw'n haeddu cael cymaint o hwyl ag unrhyw un arall.”

“Nid oes angen unrhyw esgusodion dros gynhwysiant a chefnogaeth lawn gyda digon o amser i gynllunio, ac adnoddau i alluogi hyn gael ei wireddu mewn cydweithrediad â theuluoedd.”

“Mae angen i’r model cymdeithasol o anabledd gael ei gynnwys yn y gyfraith hon, ac hefyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.”


 

6.       Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu: A oes unrhyw beth arall a fyddai’n eich atal rhag anfon eich plentyn ar gwrs addysg awyr agored breswyl?

Gofynnwyd i rai a oedd yn cymryd rhan, pe bai addysg awyr agored breswyl am ddim i bob plentyn, a oes unrhyw beth arall a fyddai’n eu hatal rhag anfon eu plentyn ar yr ymweliad? Er enghraifft, cost dillad neu esgidiau.

Costau ychwanegol

40.  Teimlai’r cyfranogwyr fod angen ystyried yn ofalus beth yn union sy’n cael ei gynnwys o ran costau, gan y gallai eitemau ychwanegol olygu na fyddai rhai teuluoedd yn gallu cymryd rhan o hyd.

“Mae angen iddyn nhw fod yn wirioneddol ymwybodol o beth yw eu disgwyliadau o rieni, oherwydd er eu bod nhw’n dweud ei fod am ddim, os ydyn nhw’n disgwyl cymaint gan rieni, i’r rhieni ei ddarparu, nid yw’n realistig i rai.”

“Rwy’n poeni am y gwir gostau.”

41.  Yn yr un modd, roedd rhai yn gwerthfawrogi y gallai costau ychwanegol fod yn rhwystr, ond roeddent yn teimlo bod y manteision cyffredinol yn fwy na’r rhwystrau.

“Felly cael esgidiau ychwanegol a phethau felly, mae'n fach iawn yn y cynllun - o ran yr hyn y bydd eich plentyn yn elwa ohono yn sgil y cyfle hwn.”

“Allwn ni ddim disgwyl gormod gan y llywodraeth.”

42.  Gwnaeth nifer o gyfranogwyr awgrymiadau ynghylch sut i fynd i'r afael â'r costau ychwanegol hyn. Er enghraifft, y gellid prynu offer fel sachau cysgu a’u defnyddio ar gylchdro pe bai’r teithiau’n amrywio, er mwyn lleddfu’r costau i’r teuluoedd.

43.  Awgrym arall oedd y gallai costau ychwanegol fod yn seiliedig ar incwm, neu y gellid defnyddio taliadau uniongyrchol i helpu i ariannu’r cymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar rai pobl ifanc i sicrhau ei fod yn gwbl gynhwysol.

7.       Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu: pryder ac ansicrwydd

Canfu ymgynghoriadau ar y Bil drafft, ar ôl cyfyngiadau ariannol, mai'r rhwystrau mwyaf i blant a phobl ifanc o ran cael mynediad at addysg awyr agored breswyl yw pryder ac ansicrwydd plant a rhieni fel ei gilydd. Gofynnwyd i’r cyfranogwyr a oedd hyn yn rhywbeth yr oeddent yn cytuno ag ef, ac os oeddent, beth oedd eu pryderon, a’u hawgrymiadau ar gyfer eu lleddfu.

Gorbryder

44.  Dywedodd sawl cyfranogwr eu bod yn teimlo y byddent yn bryderus pe bai eu plant i ffwrdd oddi wrthynt am sawl noson:

“Fyddwn i ddim yn gallu cysgu pe baen nhw i ffwrdd dros nos.”

“Byddwn i’n cael trafferth gadael iddyn nhw fynd, oherwydd rydyn ni bob amser yn mynd i lefydd fel teulu. Rydyn ni'n mynd ar deithiau ond rydyn ni'n mynd gyda'n gilydd fel teulu.”

45.  Dywedodd rhai cyfranogwyr eu bod yn meddwl y gallai eu plant fod yn bryderus i ddechrau ond “Unwaith y byddan nhw yno, dwi'n amau a fydden nhw'n gweld ein heisiau ni o gwbl! Ond efallai y byddai angen cefnogaeth arnyn nhw i fod yn hapus i fynd i ffwrdd dros nos.”

Hyder yn y cyfle

46.  Cytunodd mwyafrif y cyfranogwyr y gallai pobl ifanc a rhieni deimlo'n bryderus am daith fel hon. Teimlai’r rhan fwyaf, fodd bynnag, gyda hyder yn yr ysgol a chyda phobl yr ymddiriedir ynddynt yn rhan o’r gwaith cynllunio, eu bod yn gweld bod y manteision yn fwy nag unrhyw bryder posibl.

47.  Cytunodd y cyfranogwyr fod rhagor o bryder i rieni plant ag anableddau neu'r rhai ag anghenion ychwanegol, gan fod angen iddynt gael sicrwydd y byddai eu plant yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.

48.  Cafodd un cyfranogwr brofiadau cadarnhaol iawn, gyda thri o’i phlant yn mynychu cyrsiau preswyl, ac roedd hynny wedi deillio o gyfathrebu da gyda’r ysgol cyn ac yn ystod y daith.

49. Mae plentyn cyfranogwr arall wedi bod yn yr ysgol ers ei fod yn deirblwydd oed, ac felly mae hi'n teimlo bod ganddynt ddealltwriaeth dda o'i anghenion a beth fyddai angen ei roi yn ei le ar gyfer taith fel hon. Teimlai hi felly na fyddai pryder yn broblem fawr ac roedd yr hyder oedd ganddi yn yr ysgol a'r ddealltwriaeth sydd ganddynt o anghenion ei phlentyn yn golygu ei bod yn gyfforddus iawn gyda'r posibilrwydd o daith breswyl.

“Yr hyn a helpodd oedd cael llawer o gyfarfodydd gyda’r ysgol ynghylch beth sydd angen ei drefnu ymlaen llaw, fel bod rhieni yn gwbl ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd.”

50.  Teimlai llawer o gyfranogwyr pe bai hyder ar gyfer y teulu cyfan yn cael ei godi, na fyddai pryder yn gymaint o rwystr.

“Ni fyddai fy ysgol i yn caniatáu i’n plant gael eu ffonau, ac roedd hynny yn wir yn cynyddu ein pryder yn aruthrol, oherwydd, oni bai bod ein plant yn rhoi rhywbeth ar Twitter, nid oedd gennym unrhyw syniad beth oeddent yn ei wneud.”

“Nid yw ein plant yn cael yr un cyfleoedd i fynd i ffwrdd oddi wrth eu teulu, gan fod y rhieni’n gallu bod yn ofnus o gymryd y cam o adael iddyn nhw fynd i ffwrdd – mae rhieni angen gwybodaeth a sicrwydd i wneud iddyn nhw deimlo’n dawel eu meddwl.”

“Mae fy merch yn 15 mlwydd oed ac nid yw hi erioed wedi cael noson i ffwrdd oddi wrthyf. Does dim digon o wybodaeth i roi’r hyder i rieni adael i’w plant fynd i ffwrdd dros nos.”

51.  Dywedodd cyfranogwr arall y byddai asesiad risg ymlaen llaw ar gyfer eu plentyn wedi bod yn ddefnyddiol, a gwybod beth fyddai’r ysgol yn ei wneud mewn rhai sefyllfaoedd.

52.  Roedd mab un cyfranogwr wedi mynychu taith dros nos yn ddiweddar lle nad oedd wedi bwyta nac yfed dim. Er mai taith fer oedd hi, roedd hyn wrth gwrs wedi achosi peth pryder a phe bai hon yn daith hirach, byddai wedi bod yn broblem fawr. Teimlai y byddai cael rhagor o staff cymorth wedi helpu gyda'r pryder hwn. Bydd hi hefyd yn cael cyfarfod gyda'r ysgol y tro nesaf y bydd yn mynd ar daith o’r fath, i wneud yn siŵr bod y pethau angenrheidiol yn cael eu rhoi ar waith i'w gefnogi.

“Rwy’n teimlo’n gyfforddus ynghylch yr ysgol, ond rwy’n meddwl bod rhagor o waith i’w wneud o hyd.”

“Dw i ond yn meddwl ei fod yn drueni bod yn rhaid i chi gael y straen ychwanegol yna arnoch chi fel rhiant pan rydych eisoes yn poeni amdanynt yn mynd i ffwrdd.”

53.  Teimlai un cyfranogwr, pe bai cysylltiad diwylliannol, y byddai hyn yn help mawr i gefnogi teuluoedd.